A Thithau Rhobert nid wyt mwy
Ehedaist dithau ymaith!
A mil o gofion redant trwy
Yr adwy wnaeth marwolaeth;
Mae cyfeillgarwch rhai wrth fyw, yn oeri, oeri, beunydd,
Ond angau sydd yn gallu dwyn hen ffrindiau at eu gilydd!
Ac uno'r cyfryw ydwyf fi,
'Rwy 'n euog o ddieithrio
Ar lwybrau bywyd oddiwrthyt ti;
O! maddeu im' am deimlo!
Ond pe gallasai cariad pur, a chyfeillgarwch, gadw
Olew bywyd yn dy lamp, ni b'aset ti yn marw.
Er pan adewais fy annwyl fro,
Fe delais ym weliadau,
Gyda'r llanerchi lle glyna co'
Am febyd a'i fwynderau;
Os rhodiaf eto hyd ei ffyrdd, ei meusydd, a'i llechweddau;
Bydd Cymru wen yn anial gwag, os nad af heibio'r beddau.
Byd oer yw hwn, po mwyaf fo
Ein hadnabyddiaeth ynddo,
Mwynhau mae hiraeth am y gro
I daflu 'n blinder iddo.
Cyfeillion ant o un i un, nes teimlwn fod sirioldeb
Byd a bywyd yn y pridd, ac angau ar yr wyneb.
Ffarwel fy nghyfail, yn iach i ti!
Cawn eto ail gyfarfod;
Ac ennyd fechan iawn yw hi.
Na byddwn oll yn dyfod.
A da gan lawer sydd yn awr, mewn estron wlad yn nychu,
Fydd cael bedd fel gefaist di, rhwng hen fynyddoedd Cymru.
marwnad hyfryd a theimladwy.
ReplyDeleteSion